Ymateb y Llywodraeth: Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mae’r Llywodraeth yn ddiolchgar iawn i’r Pwyllgor am yr amser sydd wedi ei neilltuo i graffu ar y Cod Ymarfer drafft, a’r sylw a roddwyd i fanylion wrth wneud hynny.  

 

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y materion sydd wedi eu crybwyll. Fodd bynnag, cynigir gyda pharch mai mân faterion golygyddol yw’r rhain ac, er eu bod yn faterion i’w cywiro, nad ydynt yn newid gweithrediad y Cod na’i effaith. Yn wir, mae’r materion sydd wedi eu crybwyll mewn perthynas â’r Cod drafft i gyd yn ymwneud â thestun a fu ar goedd ers i’r Cod Ymarfer blaenorol gael ei ddyroddi a’i ddwyn i rym yn 2016. 

 

O ystyried y sylw hwn, mae’r Llywodraeth yn cynnig i’r Pwyllgor fod y Llywodraeth yn gwneud y cywiriadau golygyddol, fel y’u hamlinellir yn fanylach isod, cyn dyroddi’r Cod Ymarfer. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod hwn yn ymateb pragmatig a chymesur a fydd yn sicrhau bod y Cod Ymarfer yn cael ei gyhoeddi heb amhendantrwydd, nac oedi diangen.  

  

Pwyntiau craffu 1 a 2:

 

Gosodwyd y Cod blaenorol gerbron y Senedd ar 28 Ionawr 2016 ac fe’i dyroddwyd ar 16 Mawrth 2016; nid oedd wedi ei ddiwygio wedi hynny. Bydd y testun Cymraeg a’r testun Saesneg yn cael eu diwygio i gynnwys y dyddiad dyroddi a’r ISBN.  

 

Pwynt craffu 3:

                                             

Bydd y term diffiniedig “y Ddeddf” yn cael ei roi yn lle enw llawn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ym mharagraffau 2 a 3 o’r Cod, ac ym mhennawd Pennod 3 o’r Cod. Bydd hyn yn gyfwerth â’r diwygiad i’r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 4:

                                             

Yn y testun Saesneg, ym mharagraff 1, bydd cysylltnod yn cael ei ychwanegu at y gair “wellbeing” sydd wedi ei sillafu’n anghywir yn enw’r Ddeddf. Yn y ddau destun, bydd y term diffiniedig “y Ddeddf” neu “the Act” yn cael ei ddefnyddio ym mrawddeg gyntaf paragraff 2 (gan gael ei roi yn lle enw llawn y Ddeddf a chywiro’r gwall sy’n ymwneud â hepgor “2014” o enw’r Ddeddf). 

 

Pwynt craffu 5:

                                             

Ym mharagraff 4, yn dilyn y cyfeiriad at “adran 147”, bydd y geiriau “o’r Ddeddf” yn cael eu hychwanegu er mwyn nodi ymhle y mae’r ddarpariaeth i’w chael.  

 

Pwynt craffu 6: 

 

Yn y testun Cymraeg, bydd “a ddyroddir o dan adran 145” yn cael ei roi yn lle “a gyflwynir dan adran 145”. Bydd paragraffau 15, 41, 43, 52 a 82 yn cael eu cywiro mewn cyd-destun tebyg.  

 

Pwynt craffu 7:

                                             

Ym mharagraff 15 ac mewn mannau eraill yn y Cod, yn y testun Cymraeg, bydd “rôl” yn cael ei ddefnyddio i gyfieithu “role” wrth gyfeirio at “the role of the director of social services”, er mwyn bod yn gyson ag enw’r Cod a’r Cod blaenorol, ynghyd â’r Gorchymyn Diwrnod Penodedig ar gyfer y Cod hwnnw. 

 

Pwynt craffu 8:

                                             

Ym mharagraff 45(d) o’r testun Saesneg, bydd “experiencing abuse or neglect”, sef yr hyn sy’n gyfwerth â’r testun Cymraeg, yn cael ei roi yn lle “experiencing abuse of neglect”.

 

Pwynt craffu 9:      

                                 

Ym mharagraffau 81 a 85 ac yn Atodiad 2, bydd “llesiant” yn cael ei ddefnyddio i gyfieithu’r term “well-being”. 

 

Pwynt craffu 10:    

                                 

Nid yw Atodlen 2 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a atgynhyrchir yn Atodiad 1 i’r Cod, yn nodi unrhyw adrannau penodol nac yn defnyddio’r ymadrodd “Y Ddeddf gyfan” yn y cofnodion ar gyfer “Deddf Mabwysiadu 1976” a “Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002”. 

 

Pwynt craffu 11:

                                             

Yn Atodiad 1, yn y golofn gyntaf neu’r ail golofn: 

 

1.     Yn y cofnod ar gyfer “Deddf Plant 1989”, bydd term a ddiffinnir o’r newydd, sef “Deddf 1989”, yn cael ei roi yn lle “y Ddeddf” (sef y term diffiniedig a ddefnyddir yn y Cod ar hyn o bryd ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) er mwyn osgoi unrhyw amwysedd o ran y Ddeddf y cyfeirir ati yn y darn hwn; h.y. drwy roi “Deddf 1989 yn ei chyfanrwydd” yn lle “Y Ddeddf gyfan”, a rhoi “o fewn ystyr Deddf 1989” yn lle “o fewn ystyr y Ddeddf honno”.

 

2.     Yn yr un modd, yn y cofnod ar gyfer “Deddf Addysg 1996”, bydd term a ddiffinnir o’r newydd, sef “Deddf 1996”, yn cael ei roi yn lle “y Ddeddf” (neu amrywiad ar hynny). 

 

3.     Yn y cofnod ar gyfer “Deddf Galluedd Meddyliol 2005”, bydd term a ddiffinnir o’r newydd, sef “Deddf 2005”, yn cael ei roi yn lle “y Ddeddf” (neu amrywiad ar hynny). 

 

Bydd y termau diffiniedig yn gyfwerth â’r rhai yn y testun Saesneg.

 

 

 

 

 

Pwynt craffu 12:

                                             

Yn Atodiad 1, yn y golofn gyntaf, wrth gyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd “Y Ddeddf” yn cael ei roi yn lle “Y Ddeddf hon”. Bydd hyn yn gyfwerth â’r diwygiad i’r testun Saesneg.  

 

Pwynt craffu 13:    

                                 

Yn Atodiad 1, yn yr ail golofn ar gyfer y cofnod “Deddf Iechyd Meddwl 1983”, yn y testun Cymraeg, defnyddir “penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi’u cymeradwyo” i gyfieithu “approved mental health professionals”. Nid oedd y gair “proffesiynol” wedi ei gynnwys yn y frawddeg o dan sylw gan ei fod wedi ei hepgor o fersiwn Gymraeg Atodlen 2 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Sylwer y bydd “wedi eu” yn cael ei roi yn y Cod sydd i’w ddyroddi, yn lle’r ffurf dalfyredig “wedi’u” a ddefnyddir yn y Cod drafft, er mwyn iddo gyfateb i Ddeddf 2014 (yn y Gymraeg: “gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo”; yn y Saesneg: “approved mental health professionals”).

 

Pwynt craffu 14:    

                                 

Dyroddwyd y Cod Ymarfer o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mae’r Cod yn nodi’r gofynion amrywiol ar gyfer yr adroddiad blynyddol. Barn Llywodraeth Cymru yw mai risg fach iawn sydd o beri dryswch i’r darllenydd drwy ddefnyddio’r ymadrodd fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd ac, os bydd unrhyw ddryswch yn cael ei achosi mewn gwirionedd, mai goblygiad mân iawn fyddai’n deillio o hynny o gofio bod gofynion adran 144A wedi eu manylu yn adran 3 o’r Memorandwm Esboniadol.                 

 

Yn ogystal â’r newidiadau a wneir o ganlyniad i adroddiad y Pwyllgor, mae mân newidiadau dilynol wedi eu nodi a byddant hefyd yn cael eu cywiro wrth ddyroddi’r Cod. Mae’r rhain fel a ganlyn:

 

1.    Ym mharagraff 8, bydd “Rhagfyr 2023” yn cael ei roi yn lle “Chwefror 2016” er mwyn ei gwneud yn glir bod y tabl a geir yn Atodiad 1 wedi ei ddiweddaru ers dyroddi’r Cod blaenorol. Bydd hyn yn gyfwerth â’r cywiriad i’r testun Saesneg.

 

2.    Ym mharagraff 13 o’r testun Cymraeg, bydd yr ail “cymdeithasol” yn cael ei ddiwygio i “cyhoeddus” (yng nghyd-destun “gwasanaethau cyhoeddus” yn hytrach na “gwasanaethau cymdeithasol”), er mwyn cyfateb i’r testun Saesneg.

 

Bydd cywiriadau o ran fformadu a theipograffeg hefyd yn cael eu cyflawni cyn cyhoeddi.